Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Menter a Busnes

Ymchwiliad i gyfleoedd cyllido yr UE 2014-2020

Tystiolaeth gan CITB Cymru – EUO 10Description: CITB_logo_full_colour_ Cymru Wales_RGB-01

 

Ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes i gyfleoedd cyllid Ewropeaidd 2014-2020

Ymateb gan CITB Cymru Wales

 

 

1.    Mae CITB Cymru Wales yn croesawu’r cyfle i gyfrannu at ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes i gyfleoedd cyllid Ewropeaidd 2014-2020. Gallai mentrau cyllido’r Undeb Ewropeaidd drawsnewid y wlad, yn arbennig wrth uchafu cyfleoedd i ychwanegu gwerth.

 

2.    Wrth fuddsoddi mewn seilwaith, megis cynigion strategaeth TEN-T, gellid trawsnewid cymunedau wrth ddarparu swyddi, sgiliau a hyfforddiant. Mae dynodi’r project i wneud yr A465 rhwng Tredegar a Brynmawr yn ffordd ddeuol yn Academi Sgiliau Adeiladu Cenedlaethol gyntaf Cymru yn dangos yn glir sut allai buddsoddi mewn seilwaith, adeiladu a pheirianneg gefnogi unigolion ac adfywio cymunedau.   

 

3.    Byddai mabwysiadu dulliau cydlynol a chynllunio ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru yn integreiddio cyfleoedd cyllid yr Undeb Ewropeaidd gyda mentrau cyfredol y Llywodraeth, fel Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru, yn hwyluso trosi cyllid Ewropeaidd i swyddi a hyfforddiant o fewn sector adeiladu’r wlad, gan ddarparu agenda clir ar gyfer y diwydiant.

 

4.    Rydym yn croesawu’r syniad i gefnogi SMEs drwy COSME, yn cynnwys gostwng rheoliadau caeth a gwella mynediad i gyllid. SMEs yw asgwrn cefn sector adeiladu Cymru a bydd cyfathrebu addas yn hanfodol er mwyn eu hysbysu o’r adnoddau a chyfleoedd newydd sy’n agored iddynt. O ganlyniad, dylai Llywodraeth Cymru hysbysu SMEs yn glir o unrhyw raglen gyllid newydd er mwyn hwyluso mynediad gan gwmnïau adeiladu bach a mawr. 

 

5.    Dylid cydlynu cyfleoedd cyllid newydd â diwygiadau i system gaffaelio’r wlad gan uchafu’r buddion i gymunedau o fewn terfynau’r rheoliadau Ewropeaidd cyfredol ac uchafu’r cyfleoedd i ddarparu prentisiaethau a hyfforddiant.

 

6.    CITB Cymru Wales yw’r corff mwyaf yn cynrychioli cwmnïau adeiladu Cymru gyda dros 4,000 cwmni’n rhan o’n rhwydwaith, yn cynnwys Fforymau Adeiladu Rhanbarthol y de ddwyrain, de orllewin a’r gogledd. Rydym yn gweithio i uchafu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau a hyfforddiant o fewn y sector adeiladu, ac i ddarparu’r sgiliau iawn, yn y llefydd a’r amserau iawn er cefnogi adfywiad economaidd y wlad. 

 

CITB Cymru Wales - Ionawr 2014